Mae’r awdurdodau wedi dod o hyd i gyrff nifer o bobol ar gwch o Ogledd Corea yn Japan.

Cafwyd hyd i weddillion y cwch ar ynys Sado yn Niigata ddydd Gwener (Rhagfyr 27), ac mae’r cyrff wedi dechrau pydru.

Roedd tri chorff cyflawn, dau ben heb gyrff a dau gorff heb bennau yn eu plith.

Saith corff oedd ar y safle i gyd, gan gynnwys pump o ddynion.

Mae ymchwiliad ar y gweill.