Mae llys yn Sawdi Arabia wedi dedfrydu pump o bobol i farwolaeth dros lofruddiaeth y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi.

Cafodd colofnydd y Washington Post ei lofruddio y llynedd yn llysgenhadaeth Sawdi Arabia yn Istanbwl, Twrci.

Roedd Jamal Khashoggi wedi mynd yno ym mis Hydref 2018 i nôl dogfennau fyddai wedi galluogi iddo ef a’i ddarpar wraig Hatice Cengiz i briodi.

Mae Tywysog Sawdi Arabia, Mohammed bin Salman, wedi cael ei feirniadu yn dilyn y llofruddiaeth gan fod sawl un o’r swyddogion oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn gweithio iddo ef.

Mae’r deyrnas yn gwadu fod Mohammed bin Salman yn gwybod unrhyw beth am y llofruddiaeth.

Cafodd yr achosion llys yn erbyn y pum dyn eu cynnal yn gyfrinachol, er bod llond llaw o ddiplomyddion, gan gynnwys o Dwrci, yn ogystal ag ambell aelod o deulu Jamal Khashoggi wedi cael caniatâd i fynychu’r sesiynau.

Fe fydd y rhai sydd wedi cael eu dedfrydu yn cael apelio yn erbyn y dyfarniadau.