Mae nifer y meirw wedi i losgfynydd ffrwydro yn Seland Newydd wedi codi i 19.

Dywedodd yr heddlu bod un o’r dioddefwyr wedi marw mewn ysbyty yn Auckland nos Sul (Rhagfyr 22).

Roedd 47 o bobol yn ymweld â’r atyniad ar Ynys Wen pan ffrwydrodd y llosgfynydd ar Ragfyr 9. Bu farw 13 o bobol yn y fan a’r lle a chafodd mwy na 24 o bobol eraill eu cludo i’r ysbyty gyda llosgiadau difrifol.

Dyma fydd y chweched person i farw mewn ysbytai yn Seland Newydd ac Awstralia yn y pythefnos ers y ffrwydrad. Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r person fu farw neithiwr.

Nid yw’r awdurdodau wedi dod o hyd i gyrff dau berson arall oedd ar yr ynys, a chredir eu bod nhw wedi cael eu sgubo i’r môr mewn storm yn fuan ar ôl y ffrwydrad.

Roedd nifer o’r rhai gafodd eu lladd neu eu hanafu yn ymwelwyr o Awstralia oedd yn teithio ar long bleser y Royal Caribbean, Ovation of the Seas.

Nid yw’n glir a fydd Ynys Wen, sydd hefyd yn cael ei hadnabod wrth ei henw Maori, Whakaari, yn ail-agor i dwristiaid fyth eto.

Mae’r awdurdodau yn Seland Newydd yn ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad ar ôl i’r asiantaeth sy’n monitro’r llosgfynydd, GeoNet, rybuddio bod lefel y posibilrwydd o ffrwydrad ar yr ynys wedi cynyddu ar Dachwedd 18.