Seland Newydd 8    Ffrainc 7

Mi roedd hi’n agos, ond y Crysau Duon sydd wedi ennill Pencampwriaeth Rygbi’r Byd.

Mewn ail hanner cyffrous yn Eden Park, Auckland, fe lwyddon nhw i wrthsefyll tîm oedd yn benderfynol o wneud gêm ohoni, ar ôl iddyn nhw gael eu beirniadu’n hallt yn ystod y gystadleuaeth hon, yn enwedig ar ôl y chwalfa drychinebus yn erbyn Tonga.

Dechreuodd Seland Newydd yr ail hanner yn hyderus, gyda’r eilydd Stephen Donald yn cicio dros y pyst.

Ond mi darodd Ffrainc yn ôl gyda chais gan eu capten, Thierry Dusautoir. Dim ond un pwynt yn rhannu’r Crysau Duon a’r Les Bleus, a’r tensiwn yn y dorf yn cynyddu.

Fe ymdrechodd y Ffrancwyr yn galed, gan gadw’r pwysau ar Seland Newydd. Ond ar y chwiban olaf, roedd y dorf yn dathlu a’r wlad yn gyfan yn ymhyfrydu wrth i wŷr Graham Henry ennill Cwpan Webb Ellis o drwch blewyn.

Mi roedd y Crysau Duon wedi gwneud hi’n anodd i’w hunain gyda chamgymeriadau ac ar brydiau nerfusrwydd yn eu chwarae. Roedd y clwyf cicio hefyd wedi taro’r tîm, gyda Piri Weepu yn methu sawl cic.

Diwedd cyffrous i bencampwriaeth gofiadwy, a phawb yng Nghymru yn gresynu fod y clwyf cicio, a’r garden goch, wedi taro ein tîm cenedlaethol ni wrth i’r Dreigiau ifanc chwilio am anfarwoldeb ymhell o gartre.

Dywedodd Graham Henry ar ddiwedd y gêm fod ganddo barch mawr tuag at ei dîm a’r hyn oedden nhw wedi ei gyflawni heddiw. “Mi gawn ni orffwys mewn heddwch yn awr,” meddai.