Seland Newydd 5   Ffrainc 0

Mae Seland Newydd ar y blaen yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rygbi’r Byd, ond mae Ffrainc yn gwneud gornest ohoni.

Mae Ffrainc, sy’n chwarae mewn crysau gwyn, wedi goroesi cyfnodau o bwysau mawr gan y Crysau Duon, a chyn yr egwyl chwaraewyr Seland Newydd oedd i’w gweld yn gwegian yn wyneb chwarae penderfynol y Ffrancwyr.

Mae’r ddau dîm wedi colli chwaraewyr allweddol oherwydd anafiadau. Francois Trinh-Duc sydd wedi cymryd lle maswr Ffrainc, Morgan Parra, oedd yn torri ei galon pan roedd yn rhaid iddo adael maes y frwydr. Ac mae Trinh-Duc eisoes wedi arddangos tipyn o sbarc yn ei chwarae.

Mae Seland Newydd wedi colli eu maswr dylanwadol hwythau, Aaron Cruden, gyda Stephen Donald yn cymryd ei le.

Mae’n argoeli i fod yn ail hanner cyffrous.