Yn Awstralia, mae dau ddiffoddwr tân gwirfoddol wedi marw wrth geisio brwydro tanau gwyllt yn Sydney.

Fe fydd y Prif Weinidog Scott Morrison yn dod a’i wyliau i ben yn gynnar yn dilyn beirniadaeth ei fod wedi mynd i Hawaii yn ystod cyfnod argyfyngus. Fe fydd yn dychwelyd yfory (dydd Sadwrn, Rhagfyr 21).

Bu farw Geoffrey Keaton, 32, ac Andrew O’Dwyer, 36, ar ôl i goeden ddisgyn gan achosi i’w cerbyd wyro oddi ar y ffordd.

Roedd y ddau wedi marw yn y fan a’r lle tra bod tri diffoddwr tan arall wedi’u hanafu a’u cludo i’r ysbyty.

Dywedodd Comisiynydd y Gwasanaeth Tan Shane Fitzsimmons bod y ddau ddiffoddwr yn “uchel iawn eu parch” yn y frigâd dân.

Mae Scott Morrison hefyd wedi rhoi teyrnged i’r ddau am eu “dewrder wrth geisio amddiffyn eu cymunedau.”

Dywedodd y Gwasanaeth Tan y gallai hyd at 40 o gartrefi gael eu difrodi i’r de orllewin o Sydney.

Roedd New South Wales wedi cyhoeddi stad o argyfwng ddydd Iau (Rhagfyr 19) wrth i 2,000 o ddiffoddwyr tan geisio diffodd 100 o danau gwyllt ar draws y dalaith.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae chwech o bobol wedi cael eu lladd ac 800 o gartrefi wedi’u difrodi mewn tanau gwyllt.

Mae’n dilyn gaeaf anarferol o gynnes a sych yn Awstralia ac wedi ail-danio’r ddadl nad yw’r llywodraeth geidwadol wedi gwneud digon i fynd i’r afael a newid hinsawdd.