Mae heddlu Hong Kong wedi saethu nwy dagrau at brotestwyr wrth i’r trais ail-ddechrau yno ar ôl cyfnod o bythefnos.

Dywed yr heddlu eu bod wedi saethu’r nwy dagrau bore ’ma (Rhagfyr 16) wedi aflonyddwch dros nos yn ardal Mongkok.

Mae’r heddlu’n dweud fod protestwyr wedi taflu briciau at eu cerbydau yn ogystal â chynnau tanau a rhwystro ffyrdd.

Mae fideo sydd wedi ei rhyddhau yn dangos yr heddlu yn chwistrellu pupur at newyddiadurwyr cyn dechrau curo dyn gyda’u pastynau.