Mae pobl ar hyd a lled Seland Newydd wedi cynnal munud o dawelwch heddiw (Rhagfyr 16) i nodi union wythnos ers i losgfynydd ar Ynys Wen ffrwydro wythnos ddiwethaf.

Bu farw 18 o bobol a chafodd nifer o rai eraill losgiadau difrifol yn y digwyddiad Ddydd Llun, Rhagfyr 9.

Dywedodd Prif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern: “Gyda’n gilydd, gallwn gyfleu ein galar at y rhai fu farw ac sydd wedi’u hanafu yn ogystal â’n cefnogaeth i’w teuluoedd a’u ffrindiau”.

Mae dau gorff sy’n dal heb gael eu darganfod a dywed yr heddlu eu bod yn parhau i chwilio.

Twristiaid oedd y rhan fwyaf o’r 47 o bobol oedd ar Ynys Wen pan ffrwydrodd y llosgfynydd.

Yn eu plith roedd dau berson o wledydd Prydain.