Tywysog Cymru
Mae Tywysog Cymru a’r Ysgrifennydd Tramor wedi talu teyrnged i etifedd coron Saudi Arabia, y Tywysog Sultan bin Abd Al Aziz, sydd wedi marw heddiw yn 85oed.

Roedd yn hanner brawd i Frenin Saudi Arabia, ac ef hefyd oedd Dirprwy Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Amddiffyn a Hedfan y wlad.

Dywedodd llefarydd ar ran Tywysog Cymru ei fod wedi ysgrifennu llythyr o gydymdeimlad at Frenin Saudi Arabia yn datgan ei dristwch dwys o glywed y newyddion trist.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, William Hague, ei fod yntau hefyd yn drist wrth glywed am farwolaeth y Tywysog. “Fe wasanaethodd cenedl Saudi Arabia am flynyddoedd lawer gydag urddas ac ymrwymiad,” meddai.