Mae Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi llongyfarch Boris Johnson ar fuddugoliaeth y Ceidwadwyr yn yr Unol Daleithiau, gan addo cytundeb masnach “enfawr” ar ôl Brexit.

Mae’n dweud y gallai’r cytundeb fod “yn fwy o lawer ac yn fwy llewyrchus” nag unrhyw gytundeb y byddai Prydain wedi’i sicrhau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Yn dilyn buddugoliaeth y Ceidwadwyr, mae disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd mis Ionawr, ac mae disgwyl i Donald Trump geisio cytundeb masnach erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

‘Llongyfarchiadau’

“Llongyfarchiadau i Boris Johnson ar ei FUDDUGOLIAETH fawr!” meddai ar ei dudalen Twitter.

“Bydd Prydain a’r Unol Daleithiau bellach yn rhydd i daro bargen fasnach enfawr newydd ar ôl BREXIT.

“Mae gan y fargen hon y potensial i fod yn fwy o lawer ac yn fwy llewyrchus nag unrhyw fargen y gellid fod wedi’i tharo gyda’r Undeb Ewropeaidd.”

Mae’n gorffen ei neges drwy annog Boris Johnson i ddathlu ei fuddugoliaeth.

Y Gwasanaeth Iechyd

Fe fu cryn drafod am fargen fasnach yn ystod yr ymgyrchu.

Roedd Llafur wedi bod yn honni bod y Gwasanaeth Iechyd mewn perygl o gael ei werthu i gwmnïau Americanaidd yn sgil Brexit.

Ond fe fu’r Ceidwadwyr a Donald Trump yn wfftio’r honiadau dro ar ôl tro er iddo ddweud fod “popeth ar y bwrdd”.