Mae carcharor a laddodd swyddog carchar yn Tevsas wedi cael ei ddienyddio.

Bu farw Stanley Wiley yn Amarillo yn 2003, pan gafodd ei drywanu yn ei wddf gan Travis Runnels.

Roedd Travis Runnels eisoes yn garcharor ar y pryd ac roedd wedi cael ei ddal yn euog o gyflawni lladrad difrifol – 70 blynedd oedd hyd y ddedfryd. 

Aeth ati i ladd y swyddog oherwydd yr oedd wedi laru â’r gwaith yr oedd yn gorfod ei gwblhau dan glo. 

Roedd yn gorfod gweithio yn lanhawr mewn ffatri a oedd yn gwneud esgidiau i garcharorion, ac roedd eisiau gweithio yn siop trin gwallt y carchar.

Cafodd cais am apêl ei wrthod gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau  ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 11).