Mae awdurdodau yn Chile yn credu eu bod wedi dod o hyd i weddillion awyren a ddiflannodd ddydd Llun yr wythnos hon (Rhagfyr 9).

Roedd yn teithio i Antarctica, ac ar ei bwrdd roedd yna 17 aelod o’r criw, a 21 teithiwr arall.   

Hyd yma maen nhw wedi dod o hyd i ddeunydd sbwng a all fod wedi dod o danc olew’r C-130 Hercules.

Cafodd ei ddarganfod 20 milltir i ffwrdd o le ddiflannodd yr awyren, ac mi fydd profion yn cael eu cynnal arno a fydd yn cymryd deuddydd.

Roedd y tywydd yn braf pan ddechreuodd yr awyren ar ei thaith ar dydd Llun, ond roedd yn teithio mewn rhan o’r byd lle mae’r tywydd yn medru newid yn sydyn.