Mae chweched person wedi marw wedi i losgfynydd ffrwydro ar Ynys Wen yn Seland Newydd, meddai’r heddlu.

Roedd dwy ddynes Brydeinig ymysg yr oddeutu 30 a gafodd eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y ffrwydrad ddydd Llun (Rhagfyr 9).

Mae sawl un o’r 30 wedi dioddef llosgfeydd difrifol, tra mae wyth person ar goll.  

Mae goroeswyr wedi disgrifio sut y cafodd twristiaid eu gorfodi i redeg i mewn i’r môr i  geisio dianc oddi wrth gymylau trwchus o ludw.

Dywed Uwch Gomisiynydd y Deyrnas Unedig i Seland Newydd wedi dweud: “Rydym yn cefnogi teuluoedd y ddwy ddynes sydd yn yr ysbyty yn Seland Newydd.