Mae o leiaf 26 o bobol wedi cael eu lladd mewn llifogydd yn dilyn glaw trwm mewn rhannau o Uganda, meddai’r Groes Goch.

Bu farw 17 o bobol o ganlyniad i lifogydd yn ardal Bundibugyo ac mae naw o bobol eraill wedi marw yn ardaloedd mynyddig Sironko a Bududa yn y dwyrain, meddai llefarydd ar ran y Groes Goch yn Uganda.

Dywed y llywodraeth yn Uganda eu bod yn anfon cymorth i’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio.

Mae trigolion yn cael eu hannog i symud o ardaloedd lle mae afonydd wedi gorlifo’u glannau.

Yn y cyfamser mae mwy na 6,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Bududa, ardal ger Mynydd Elgon, lle mae tirlithriadau wedi lladd cannoedd o bobol dros y blynyddoedd.