Mae tri o enillwyr Gwobr Nobel eleni wedi pwysleisio pwysigrwydd mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Roedd enillwyr y gwobrau mewn ffiseg, cemeg ac economeg yn cymryd rhan mewn cynhadledd i’r wasg yn Stockholm heddiw, cyn seremoni cyflwyno’r gwobrau’r wythnos nesaf.

Daw eu sylwadau wrth i uwch-gynhadledd fyd-eang ar newid hinsawdd gael ei chynnal yn Madrid.

“Rydym fel rhywogaeth wedi esblygu a datblygu ar gyfer y blaned hon,” meddai Didier Queloz, enillydd y wobr ffiseg am ddarganfod planed sydd y tu allan i’r system solar. “Dydyn ni ddim wedi cael ein gwneud i oroesi ar unrhyw blaned heblaw hon. Fe fyddai’n well innni dreulio’n hamser a’n hynny’n ceisio’i hatgyweirio.”

Rhybuddiodd Esther Duflo, un o’r enillwyr economeg, y bydd mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn gofyn am newid mewn ymddygiad, yn enwedig yn y gwledydd cyfoethog.

M Stanley Whittingham oedd enillydd y wobr cemeg am helpu datblygu batris lithiwm-ion, a dywedodd mai nawr i’r amser i ddatrys problem yr hinsawdd.