Gaddafi yn gelain
Ni fydd y Cyrnol Muammar Gaddafi yn cael ei gladdu nes bod ei farwolaeth wedi ei harchwilio gan Lys Trosedd Rhyngwladol, meddai swyddogion Libya.

Yn ôl Mohamed Sayeh, aelod pwysig o’r Cyngor sy’n llywdoraethu’r wlad, wedi dweud y bydd corf annibynnol “yn dod o’r tu allan i Libya i fynd drwy’r gwaith papur”.

Mae’n dweud hefyd bod corf y Cyrnol yn dal i fod yn Misrata. Aethpwyd a’r corf yno ar ôl ladd Gaddafi yn Sirte.

Dywedodd Mohamed Sayeh y bydd y Cyrnol yn cael ei gladdu ymhen amser gyda pharch yn unol â thraddodiad Islam. Ond ni fydd yn angladd cyhoeddus.

Daw’r oedi wrth ei gladdu wedi i luniau gwaedlyd o funudau ola’r Cyrnol godi sawl cwestiwn ynghylch sut yn union y bu far war ôl iddo gael ei ddal a’I glwyfo.

Mae swyddfa hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod angen ymchwilio I amodau marwolaeth Gaddafi.