Mae morwr wedi saethu tri o bobol ddiniwed, gan ladd dau ohonyn nhw, cyn troi’r gwn arno’i hun yn Pearl Harbour – ddeuddydd yn unig cyn bod disgwyl i filoedd o bobol ymgynnull yno i nodi 78ain pen-blwydd y bomio gan Japan a ddaeth a’r Unol Daleithiau yn rhan o’r Ail Ryfel Byd.

Dyw’r rheswm y tu ol i’r ymosodiad ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 4) ddim eto’nn glr.

“Does gyda ni ddim syniad eto os oedd gan yr achos o saethu gysylltiad uniongyrchol gyda’r digwyddiadau hanesyddol, neu ai cyd-ddigwyddiad oedd yr amseriad,” meddai llefarydd ar ran safle’r llynges yno.

Mae un dyn wedi’i gludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Roedd y morwr yn aelod o uned llong danfor yr USS Columbia, sy’n treulio cyfnd yn Pearl Harbour-Hickam ar gyfer gwaith cynnal a chadw.