Dim nnd tua un o bob deg disgybl ysgol sy’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng ffeithiau a barn, yn ol yr astudiaeth bob tair blynedd sy’n mesur gallu pobol ifanc 15 oed.

Mae ymchwil yr OECD yn dangos fod 11.5% o ddigsyblion yn y Deyrnas Gyfunol ar lefel 5 neu 6 ar y raddfa asesu PISA o ran gallu gwahaniaethu rhwng ffeithiau a barn unigolyn.

Dim ond 8.7% oedd yn cyrraedd o leia’ lefel 5 ar draws y gwledydd. .

Dim ond yn Tsieina (Beijing, Shanghai, Jiangsu a Zhejiang), yn Canada, Estonia, Ffindir  Singapor a’r Unol Daleithiau, oedd dros un o bob saith o bobol ifanc yn gwneud yn well.