Mae cwmni ar-lein Amazon wedi dileu nwyddau Nadolig oddi ar y wefan oherwydd eu bod yn cynnwys lluniau o wersyll marwolaeth Auschwitz yn yr Almaen.

Roedd Amgueddfa Auschwitz-Birkenau, sy’n cofio am y mwy na miliwn o Iddewon a fu farw yng ngwersylloedd y Natsïaid yno, wedi protestio am y nwyddau ac roedd nifer o sylwadau beirniadol ar wefan gymdeithasol Twitter hefyd.

Cwmni Fcheng sy’n gwerthu nwyddau gyda lluniau o rai o atyniadau mwya’r byd –  gan gynnwys Castell Caeriw a Thraeth Oxwich yng Nghymru – sy’n gwerthu addurniadau Nadolig, agorwr potel a phad llygoden gyda lluniau o’r gwersyll.

Yn ôl yr Amgueddfa, roedd y rhain yn “annifyr ac amharchus” ac maen nhw wedi galw ar wefan arall, Wish Shopping, i wahardd y nwyddau hefyd.

Dywedodd Amazon bod gofyn “i’w holl werthwyr ddilyn eu canllawiau”.