Mae dynes yn llywydd Comisiwn Ewrop am y tro cyntaf erioed, ar ôl i Ursula von der Leyen gamu i’r swydd.

Mae’r Almaenes yn olynu Jean-Claude Juncker.

Ac mae Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop, hefyd yn gadael ei swydd ac yn cael ei olynu gan Charles Michel o Wlad Belg, a fydd hefyd yn cadeirio uwchgynadleddau arweinwyr Ewrop.

Mae’r ddau wedi cael siars i wireddu addewidion sydd wedi cael eu gwneud i drigolion Ewrop, gan gynnwys mynd i’r afael â newid hinsawdd a chostau byw cynyddol.

Mae Ursula von der Leyen yn dweud bod newid hinsawdd ymhlith ei phrif flaenoriaethau wrth gamu i’r swydd.

Bydd y ddau hefyd yn gorfod mynd i’r afael â mater Brexit dros y misoedd i ddod.