Mae gweddillion nifer o bobol y cafwyd hyd i’w cyrff yng nghefn lori yn Essex wedi cael eu dychwelyd i’w teuluoedd yn Fietnam.

Cafodd 16 o gyrff ac ulw saith o bobol eu cludo i faes awyr Hanoi o Lundain.

Cafwyd hyd i’r cyrff yng nghefn lori yn Grays yn Essex ar Hydref 23, ac roedden nhw i gyd rhwng 15 a 44 oed.

Mae lle i gredu bod y 39 – 31 dyn ac wyth dynes – wedi talu i gael eu cludo o’u mamwlad i Loegr.

Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r digwyddiad.