Mae’r dringwr rhydd adnabyddus o’r Unol Daleithiau, Brad Gobright, wedi marw ar ôl disgyn ym Mecsico.

Roedd Brad Gobright wedi bod yn ceisio dringo craig serth sy’n cael ei adnabod fel Sendero Luminoso ar gopa El Potrero Chico ger dinas Monterrey pan syrthiodd ddydd Mercher (Tachwedd 27).

Dywedodd yr awdurdodau yno ei fod wedi disgyn tua 300 metr.

Roedd Brad Gobright, 31, yn dod o Galiffornia, ac yn cael ei ystyried yn un o’r dringwyr rhydd mwya’ medrus yn y byd.

Yn ôl swyddogion ym Mecsico roedd Brad Gobright yn dringo gyda dringwr arall pan ddigwyddodd y ddamwain.