Mae gweithwyr a fu’n ceisio atal Ebola rhag lledu yn Affrica wedi cael eu lladd gan grwpiau arfog yn nwyrain y Congo.

Cawson nhw eu hymosod ym Mwynfeydd Biakato a Mangina, ac ar hyn o bryd does dim sicrwydd ynghylch faint o bobol cafodd eu lladd.

Dyma un o’r pyliau gwaethaf o Ebola erioed, ac nid dyma yw’r tro cyntaf i weithwyr gael eu targedu.

Daw’r ymosodiadau diweddaraf yn dilyn diwrnod o drais yn Beni lle heidiodd dinasyddion y ddinas i adeilad y Cenhedloedd Unedig i wrthdystio.

Mae pobol y ddinas am i’r Cenhedloedd Unedig eu hamddiffyn oddi wrth ymosodiadau gwrthryfelwyr.