Mae pump yn rhagor o bobol wedi marw yn llifogydd Cenia, gyda’r ffigwr ar draws y wlad wedi cyrraedd 65 erbyn hyn.

Fe fu llifogydd a glaw trwm yn Rift Valley dros nos.

Bu farw’r pump, gan gynnwys tri o blant, pan gafodd eu car ei lusgo gan y dŵr wrth iddyn nhw ddychwelyd o briodas yn Tanzania.

Roedd o leiaf 52 o’r rhai fu farw yn byw yn sir West Pokot, yn ôl yr awdurdodau, sy’n dweud bod hyd at 120,000 o bobol wedi cael eu heffeithio gan lifogydd a thirlithriadau yno.

Mae glaw trwm yn anghyffredin yn y wlad ar yr adeg hon o’r flwyddyn ac mae’r Groes Goch yn rhybuddio bod rhagor o lifogydd i ddod.

Mae cynnydd yn y tymheredd hefyd wedi achosi llifogydd mewn gwledydd eraill yng Nghefnfor India, gan gynnwys De Swdan, Djibouti a Somalia.