Mae tri o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd yn Ffrainc, ac mae tirlithriad wedi dymchwel ffordd yn yr Eidal.

 

Mae glaw trwm wedi gadael teithwyr yn sownd, wrth i goed gwympo ar nifer o ffyrdd.

 

Fe wnaeth ffordd 100 troedfedd ddymchwel ger dinas Savona yn yr Eidal ddoe (dydd Sul, Tachwedd 24).

 

Tirlithriad oedd wedi achosi’r digwyddiad hwnnw, ac mae’r gwasanaeth tân yn parhau i chwilio am unrhyw un sydd wedi goroesi.

 

Dydy hi ddim yn glir eto a oedd unrhyw gerbydau wedi cwympo oddi ar y dibyn.

 

Yng ngogledd yr Eidal, daethpwyd o hyd i ddynes yn farw ar ôl i’w char gael ei dynnu i lawr afon Bomida.

 

Bu farw un person wrth i gwch geisio tynnu pobol i’r lan yn nhref Muy yn Ffrainc, a chafwyd hyd i berson arall yn farw yn nhref Cabasse yn Ffrainc, gyda rhagor o bobol ar goll.