Mae teithiau di-ri wedi cael eu canslo yn Helsinki wrth i’r diwydiant ddod ynghyd mewn streiciau.

Fe fu’n rhaid i gwmni awyr Finnair ganslo bron i 300 o deithiau, ac mae bysus a llongau hefyd wedi dod i stop.

Mae disgwyl i’w penderfyniad effeithio ar o leiaf 20,000 o gwsmeriaid.

Maen nhw’n cefnogi hyd at 10,000 o weithwyr post sy’n streicio am bythefnos tros gyflogau.

Daeth trafodaethau i ben yn aflwyddiannus neithiwr (nos Sul, Tachwedd 24), a dydy hi ddim yn glir am ba hyd fydd y streic yn para.