Mae cyrff saith o ffoaduriaid wedi cael eu tynnu o’r môr oddi ar ynys Lampedusa yn yr Eidal.

Fe fu’r awdurdodau’n chwilio amdanyn nhw ac 13 o bobol eraill sydd ar goll ers i’w cwch suddo ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 23).

Mae lle i gredu bod dynes ymhlith y rhai fu farw.

Cafodd 149 o bobol eu hachub i gyd, ond mae lle i gredu bod 169 o bobol ar y cwch cyn y digwyddiad.