Mae gwleidyddion Bolifia wedi cymeradwyo mesur sy’n galw am gynnal etholiad arlywyddol o’r newydd – ond heb y cyn-arweinydd Evo Morales.

Fe fu anghydfod yn y wlad ers yr etholiad blaenorol ar Hydref 20, a hynny ynghylch honiadau o anghysonderau etholiadol.

Mae’r mesur yn gwahardd unrhyw un sydd wedi bod mewn grym am o leiaf ddau dymor blaenorol.

Jeanine Anez yw’r arlywydd dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Evo Morales ar Dachwedd 10 yn dilyn cais gan y lluoedd arfog.

Dydy hi ddim yn glir pryd fydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal.

Mae Evo Morales wedi bod yn alltud ym Mecsico ac mae o leiaf 32 o bobol wedi cael eu lladd mewn protestiadau a ddeilliodd o’r digwyddiad hwnnw.

Mae wedi’i gyhuddo o frawychiaeth ac o annog gwrthryfel ac fe allai dreulio hyd at 20 mlynedd yn y carchar.