Mae Prif Weinidog llywodraeth dros dro Libya wedi cyhoeddi bod cyn-arweinydd y wlad, Muammar Gaddafi, wedi cael ei ladd yn ei dref enedigol Sirte.

Dywedodd Mahmoud Jibril mewn cynhadledd i’r wasg yn Tripoli: “Rydyn ni wedi bod yn aros am hyn ers amser hir. Mae Muammar Gaddafi wedi cael ei ladd.”

Mae lluniau a ffilm yn dangos corff Gaddafi wedi cael eu darlledu ar orsafoedd teledu yn y wlad, ac mae dathliadau ar y strydoedd.

Mae Sirte bellach yn nwylo’r gwrthryfelwyr, a’r gred yw bod Gaddafi wedi cael ei ddal, tra’n ceisio ffoi mewn confoi.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron bod ei farwolaeth yn gam tuag at “ddyfodol cryf a democrataidd” yn y wlad.  Ychwanegodd bod heddiw yn ddiwrnod i gofio’r rhai oedd wedi dioddef o ganlyniad i deyrnasiad yr unben.