Mae tua 100 o ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth yn parhau i aros mewn prifysgol yn Hong Kong wrth i gyrch o’r campws gan yr heddlu barhau am drydydd diwrnod.

Dywedodd arweinydd y ddinas Carrie Lam bod tua 600 o bobl wedi gadael campws y brifysgol, gan gynnwys 200 oedd o dan 18 oed.

Mae’r heddlu wedi amgylchynu’r brifysgol ac yn arestio unrhyw un sy’n gadael. Roedd grwpiau o brotestwyr wedi gwneud sawl ymdrech i ddianc ddoe (dydd Llun, Tachwedd 18) ond nid yw’n glir a oedden nhw wedi llwyddo i osgoi cael eu harestio.

Dywedodd Carrie Lam na fyddai’r rhai o dan 18 oed yn cael eu harestio’n syth ond fe allen nhw wynebu cyhuddiadau yn ddiweddarach. Dywedodd bod y 400 o bobol eraill sydd wedi gadael wedi cael eu harestio.

Mae hi wedi galw ar y protestwyr i gydweithio er mwyn dod a’r gwrthdaro i ben “mewn modd heddychlon”.

Mae ymgyrch y protestwyr wedi dwysau dros y pum mis diwethaf wrth i’r awdurdodau lleol a Beijing wrthod gwneud unrhyw gonsesiynau.