Mae pedwar o bobol wedi cael eu saethu’n farw – a chwech arall wedi’u hanafu – ar ôl i nifer o bobol arfog fynd i mewn i barti yng Nghaliffornia.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 6 o’r gloch y nos wrth i bobol ymgynnull i wylio gêm bêl-droed.

Cafodd deg o bobol eu saethu i gyd, a chafwyd hyd i dri ohonyn nhw’n farw yn yr ardd, cyn i bedwerydd farw yn yr ysbyty.

Mae disgwyl i’r chwech arall oroesi ar ôl cael triniaeth.

Dynion Asiaidd rhwng 25 a 35 oed oedden nhw i gyd.

Roedd tua 35 o bobol yn y parti.

Does neb wedi cael ei arestio mewn perthynas â’r digwyddiad, a does dim awgrym fod y dioddefwyr yn adnabod y sawl oedd yn gyfrifol, yn ôl yr heddlu.

Digwyddiadau eraill yn y dalaith

Mewn digwyddiad arall yn ninas Fresno, cafodd dyn yn ei 20au ei saethu’n farw yn ei gartref, ond dydy’r heddlu ddim yn dweud a yw’r ddau ddigwyddiad yn gysylltiedig â’i gilydd.

Ddydd Iau (Tachwedd 14), aeth llanc 16 oed i mewn i’w ysgol a saethu dau gyd-ddisgybl yn farw ac anafu tri arall cyn saethu a lladd ei hun.

Ddydd Sadwrn (Tachwedd 16), fe wnaeth dyn saethu ei wraig a thri o’u meibion yn farw cyn lladd ei hun, ac mae pedwerydd mab mewn cyflwr difrifol.