Mae lluoedd arfog Bolifia wedi lladd o leiaf wyth o bobol wrth iddyn nhw saethu at gefnogwyr y cyn-arlywydd Evo Morales.

Cafodd dwsinau yn rhagor eu hanafu mewn digwyddiad sy’n bygwth sefydlogrwydd gwleidyddol y wlad.

Yn ôl cyfarwyddwr ysbyty lleol, dyma’r achos gwaethaf o drais a welodd ers 30 o flynyddoedd.

Mae teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd yn galw am ryfel cartref.

Mae Evo Morales yn byw’n alltud ym Mecsico ers i’w gyfnod wrth y llyw ddod i ben yr wythnos ddiwethaf.

Mae’n cyhuddo’r llywodraeth dros dro o fod yn unbennaeth o dan arweiniad Jeanine Anez.

Mae’r marwolaethau diweddaraf yn cael eu galw’n “ddatblygiad peryglus”.

Evo Morales

Mae Evo Morales yn mynnu mai fe yw arlywydd Bolifia o hyd, gan nad yw ei ymddiswyddiad wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol.

Ond mae’n cael ei gyhuddo o drefnu canlyniadau’r etholiad ar ôl sicrhau pedwerydd tymor wrth y llyw.

Mae ymchwiliad annibynnol wedi dod o hyd i anghysonderau, ond mae Evo Morales yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.