Llun o'r llifogydd yr wythnos ddiwetha' (Withit Chanthamarit CCA 2.0)
Mae Prif Weinidog newydd Gwlad Thai’n cydnabod bod ei llywodraeth yn methu â delio gyda’r llifogydd sydd wedi achosi dinistr tros draean y wlad.

Mae Yingluck Shinawatra wedi crefu am drugaredd gan y cyfryngau a’r bobol wrth iddyn nhw geisio delio gyda’r dyfroedd sydd eisoes wedi lladd 320 o bobol.

Mae naw miliwn o bobol wedi eu heffeithio, gyda’r llifogydd tros 27 o 77 rhanbarth y wlad ac wedi achosi tua £3 biliwn o ddifrod.

‘Gwneud eu gorau’

Yn ôl y Prif Weinidog, roedden nhw’n gwneud eu gorau ac yn ceisio rhagweld ble byddai’r dŵr yn taro nesa’.

Hyd yn hyn, mae Bangkok wedi osgoi’r llifogydd gwaetha’, oherwydd y system o ffosydd a gwrthgloddiau, ond mae pryder am ardaloedd yng ngogledd y brifddinas.

Roedd pôl piniwn wedi dangos nad oedd 87% o bobol yn ymddiried yn yr wybodaeth yr oedd y Llywodraeth yn ei rhoi iddyn nhw.