Mae o leiaf tri o bobol wedi cael eu hanafu yn ystod saethu mewn ysgol uwchradd yn ne Califfornia.

Dywed yr heddlu eu bod nhw’n ymateb i ddigwyddiad yn Ysgol Uwchradd Saugus yn ninas Santa Clarita.

Yn ôl yr heddlu roedd dyn mewn dillad du wedi cael ei weld yn yr ysgol.

Roedd un o’r rhai gafodd eu hanafu wedi cael eu cludo i’r ysbyty mewn hofrennydd a’r ddau arall mewn ambiwlans.