Nicolas Sarkozy
Mae Carla Bruni-Sarkozy wedi rhoi genedigaeth i ferch fach – y plentyn cyntaf i gael ei eni i arlywydd tra yn ei swydd yn y Ffrainc fodern, yn ôl adroddiadau’r wlad.

Roedd yr Arlywydd Nicolas Sarkozy yn dychwelyd o gyfarfod â Changhellor yr Almaen yn Frankfurt, lle’r oedden nhw’n trafod dyledion gwledydd yr Ewro, pan gafodd y ferch fach ei geni tua 8pm neithiwr, yn ôl adroddiadau.

Mae’n debyg bod y fam 43 oed, a’r ferch fach, yn ymdopi’n dda iawn ar ôl yr enedigaeth yng nghlinig preifat Muette yng ngorllewin Paris.