Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad oedd bodau dynol cynnar yr un mor glyfar ag epaod heddiw.

Mae hyn yn mynd yn erbyn theorïau blaenorol yn awgrymu i’r gwrthwyneb.

Er bod gan epa ymennydd yr un maint â gorila, mwnci ac orangutan, mae gwyddonwyr o’r farn fod llai o waed yn llifo i ymennydd bodau dynol cynnar, neu “Australopithecus.”

Awgryma’r ymchwil newydd fod gan benglogau epaod heddiw fylchau bychain sy’n galluogi i rydwelïau ddyblu faint o waed sy’n llifo i’r ymennydd.

Ac yn ôl yr ymchwil, golyga hyn fod deallusrwydd mewn bodau dynol mwy diweddar wedi datblygu’n gyflymach.

Dywed yr awduron, a gafodd eu harwain gan Dr Roger Seymor ym Mhrifysgol Adelaide, fod “y canlyniad yn codi amheuaeth dros y cysyniad fod nodweddion niwrolegol a gwybodol epaod modern yn cynrychioli gallu’r rhywogaeth Australopithecus.”