Mae cannoedd o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn dilyn tanau mawr yn Awstralia.

Mae’r tanau’n parhau i ledu yn nwyrain y wlad, gyda’r gwaethaf ohonyn nhw yn nhaleithiau New South Wales a Queensland.

Mae mwy na 200 o gartrefi wedi’u colli yn New South Wales ers dydd Gwener (Tachwedd 8), tra bod 14 wedi’u dinistrio yn Queensland.

Mae gwyntoedd cryfion yn gwneud y gwaith o ddiffodd y tanau’n fwy anodd fyth.

Mae rhybudd tân yn ei le mewn rhannau helaeth o dde Queensland, lle mae disgwyl i’r tymheredd godi eto.

Cafodd 13 o ddiffoddwyr eu hanafu yn New South Wales dros nos.

Yn ôl y gwasanaeth tân, mae disgwyl sychder mawr am rai misoedd i ddod.

Mae argyfwng wedi’i gyhoeddi yn New South Wales.