Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, wedi cael ei gludo i’r ysbyty, wedi iddo ddiodde’ gwaedlif ar yr ymennydd.

Fe fydd yn cael llawdriniaeth heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 12) yn Atlanta.

Mae Jimmy Carter, 95, wedi cwympo sawl gwaith yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae’r gwaedlif diweddara’ hwn o ganlyniad i hynny, meddai meddygon. Yn ystod y gwanwyn, fe fu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei glun.

Mae’r gwleidydd wedi brwydro canser yn ystod y blynyddoedd diwetha’ hefyd.

Bron i 40 blynedd ers ei gyfnod yn y Ty Gwyn, mae’n dal i fynychu’r Ysgol Sul yng nghapel Bedyddwyr Maranatha yn ei dref enedigol, Plains, yn ne-orllewin Georgia.