Mae Gambia wedi cyflwyno achos i oruchaf lys y Cenhedloedd Unedig, sy’n cyhuddo Burma o hilladdiad mewn ymgyrch yn erbyn lleiafrif Mwslemaidd Rohingya.

Mae Gambia wedi gofyn i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol i gyflwyno mesurau er mwyn “rhoi terfyn ar eu hil-laddiad ar unwaith”.

Dechreuodd luoedd arfog Burma ymgyrch yn erbyn y Rohingya yn Awst 2017 mewn ymateb i ymosodiad.

Ers hynny, mae mwy na 700,000 o Rohingya wedi gorfod ffoi i Fangladesh. Dywed gweinidog cyfiawnder a’r twrnai cyffredinol, Abubacarr Marie Tambadou ei fod eisiau gyrru neges glir i Myanmar a gweddill y gymuned ryngwladol.

“All y byd ddim gwneud dim byd nac anwybyddu’r erchyllterau sy’n digwydd o’n cwmpas,” meddai.

“Mae hi’n siom i’n cenhedlaeth ein bod yn gwneud dim tra bod hil-laddiad yn digwydd o flaen ein llygaid.”