Mae Evo Morales, arlywydd Bolifia, yn galw am etholiadau o’r newydd yn dilyn protestiadau ar draws y wlad.

Roedd yn honni ei fod e wedi ennill cyn i adroddiad gael ei gyhoeddi yn nodi anghysondebau yn y bleidlais ar Hydref 20.

Dydy’r arlywydd ddim wedi trafod yr adroddiad, ond mae’n galw am heddwch yn y wlad ar ôl i dri o bobol gael eu lladd yn ystod protest.

Roedd yr arlywydd yn herio Carlos Mesa yn yr etholiad diweddaraf, ond chafodd y canlyniadau mo’u cyhoeddi am 24 awr, gan arwain at amheuon o dwyll.

Mae’r Pab Ffransis wedi bod yn ymbil am heddwch yn y wlad.