Mae o leiaf dri o bobl wedi marw, gydag amryw yn dal ar goll a llawer wedi cael eu hanafu mewn tanau gwyllt ar arfordir dwyreiniol Awstralia.

Dywed yr awdurdodau fod mwy na 150 o gartrefi hefyd wedi cael eu dinistrio.

Mae tua 1,500 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn ymladd mwy na 70 o danau ledled talaith fwyaf poblog Awstralia, De Cymru Newydd.

Mae prif weinidog y wlad, Scott Morrison, yn rhybuddio Awstraliaid i fod yn barod am fwy o newyddion drwg o’r tanau.

Mae tymor y tanau yn Awstralia, sydd fel arfer ar ei anterth yng nghanol haf yr hemisffer deheuol, wedi cychwyn yn gynnar ar ôl gaeaf anarferol o gynnes a sych.