Mae daeargryn grymus yn mesur 5.9 wedi taro gogledd ddwyrain Iran, gan ladd o leiaf pump o bobol ac anafu mwy na 300 o rai eraill, meddai swyddogion.

Roedd y daeargryn wedi taro ardal Tark yn nhalaith Ddwyrain Azerbaijan tua 2.17yb (amser lleol fore Gwener, Tachwedd 8).

Mae’r ardal tua 250 o filltiroedd i’r gogledd ddwyrain o Tehran, prifddinas Iran.

Roedd pobl wedi ffoi o’u cartrefi wrth i fwy na 40 o ôl-gryniadau daro’r rhanbarth ym Mynyddoedd Alborz.

Mae timau achub wedi cael eu hanfon i’r ardal lle mae tua 30 o gartrefi wedi cael eu difrodi.

Mae’n debyg mai dim ond 13 o’r rhai sydd wedi’u hanafu oedd angen triniaeth yn yr ysbyty a bod y rhan fwyaf o’r anafiadau wedi digwydd wrth i bobol ffoi o’r safle.