Mae llywodraeth Yemen wedi arwyddo cytundeb rhannu grym gyda gwrthryfelwyr sy’n ymladd gyda chefnogaeth yr Emiradau Arabaidd Unedig.

Bwriad y cytundeb ydi rhoi terfyn ar fisoedd o ymladd rhwng y ddwy ochr.

Mae’r ddwy garfan hefyd yn rhan o gynghrair dan arweiniad Sawdi Arabia sy’n ymladd grwp o rebeliaid Houthi.

Mae arlywydd Yemen, Abed Rabbo Mansour Hadi, wedi bod yn byw y tu allan i brifddinas ei wlad ers 2014, wedi i’r ymladdwyr Houthi ei meddiannu.

Mae’r cytundeb diweddaraf yn caniatau i’r srlywydd ddychwelyd i Aden, ac mae’n galw am gabinet newydd i arwain y wlad.