Mae dynion arfog sy’n rhan o gartél cyffuriau yn Mecsico, wedi ymosod ar dri cherbyd a lladd beth bynnag chwech o blant a thair menyw o America.

Wedi’r ymosodiad, roedd un o’r cerbydau wedi’i losgi’n ulw ac yn dyllau bwledi drosto, meddai’r awdurdodau.

Ymhlith y meirw, mae efeilliaid wyth mis oed, ac mae o leia’ bump o blant wedi’u hanafu.

Mae’r awdurdodau o’r farn fod y dynion wedi camgymryd y grwp am aelodau giang arall o werthwyr cyffuriau.

Mewn gwirionedd, roedd y teithwyr i gyd yn rhan o deulu LeBaron, ac yn aelodau o’r gymuned Formonaidd.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi cynnig cymorth i Mecsico “fynd i ryfel” yn erbyn gangiau cyffuriau.