Mae arlywydd Tsieina wedi cyfarfod gyda Prif Weithredwr Hong Kong, Carrie Lam.

Fe ddaeth y ddau wyneb yn wyneb mewn digwyddiad masnach yn Shanghai nos Lun (Tachwedd 4) a hynny yng nghanol arwyddion fod Tsieina yn awyddus i dynhau eu gafael ar Hong Kong.

Mae Prif Ysgrifennydd Hong Kong, Matthew Cheung, wedi wfftio honiadau fod y cyfarfod yn dyst fod Xi Jinping yn ofidus am y ffordd y mae Carrie Lam wedi delio â’r protestiadau dros y misoedd diwethaf.

“Y gwrthwyneb sydd yn wir,” meddai. “Mae’r ffaith ei fod wedi ffeindio amser i gyfarfod, ac yntau mor brysur, yn bleidlais o hyder
ynon ni.”