Does gan drais ddim lle yn yr anghydfod dros annibyniaeth dros Gatalwnia, meddai Brenin Sbaen yn ystod ymweliad â’r ardal sydd wedi sbarduno protestio.

Mae Felipe VI wedi bod yn darged i feirniadaeth danllyd gan bobol sydd am weld Catalwnia yn ennill annibyiaeth, a chanlyniad refferendwm yn cael ei barchu.

Ei ymweliad ddydd Llun (Tachwedd 4) oedd y cyntaf â’r ardal ers i’r naw gwleidydd a arweiniodd yr ymgyrch annibyniaeth gael eu carcharu.

Mae’r ymateb i garcharu wedi bod yn danllyd gyda phrotestiadau enfawr sydd wedi troi’n dreisgar ar adegau.

Mae dros 500 o bobl wedi cael ei hanafu yn y protestiadau, hanner ohonynt yn heddlu tra bod degau wedi cael eu harestio