Yn Hong Kong, mae dyn 48 oed yn cario cyllell sy’n cael ei amau o anafu dau o bobol a brathu rhan o glust gwleidydd, wedi cael ei arestio.

Mae wedi’i ddwyn i’r ddalfa ynghyd â day ddyn a darodd yn ol ac ymosod arno yntau.

Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau fod y dyn wedi ymosod ar ddau o bobol gyda chyllell y tu allan i ganolfan siopa yn hwyr nos Sul (Tachwedd 3) ar ol iddyn nhw gael dadl.

Y gred ydi fod y dyn arfog. wedyn, wedi bod yn destun ymosodiad, wedi i’r dorf droi arno – a dau ddyn, 23 a 29 oed, yn benodol.

Fe gafodd cyfanswm o bump o bobol eu hanafu yn y digwyddiadau, yn cynnwys dau o bobol sydd mewn cyflwr difrifol iawn.