Mae tri o brotestwyr wedi cael eu saethu’n farw yn ystod gwrthdaro treisgar o flaen un o adeiladau llywodraeth Irac yn ninas sanctaidd Karbala.

Mae gwrthdystiadau mawr wedi bod yn ne’r wlad ers rhai dyddiau, wrth i bobol fynegi eu pryderon a’u hanfodlonrwydd tros brisiau petrol.

Mae’r protestwyr wedi canolbwyntio eu sylw fwyfwy ar Iran, sydd â chysylltiadau gyda llywodraeth Irac, carfanau gwleidyddol a grwpiau parafilwrol oddi fewn i Irac.

Nos Sul (Tachwedd 3) fe losgodd protestwyr deiars ar strydoedd Karbala ac ymosod ar swyddfeydd llywodraeth Irac, gan ddringo i ben ffensys concrid a thaflu bomiau dros y waliau.

Roedd dwsinau o bobol yn gweiddi “Mae’r bobol eisiau gweld y drefn yn cael ei dymchwel”, un o brif siantiau protestiadau democratiaeth gwanwyn 2013.