Mae pump o bobol wedi cael eu saethu yn ystod parti Calan Gaeaf yng Nghaliffornia.

Mae lle i gredu bod modd rhentu’r eiddo lle digwyddodd y saethu, ar wefan Airbnb.

Yn ôl adroddiadau, cafodd yr eiddo ei rentu gan ddynes oedd wedi honni bod ei theulu’n dioddef o asthma ac yn dymuno dianc rhag y tanau mawr yn y dalaith.

Cafodd dryll ei glywed am oddeutu 10.45 nos Iau (Hydref 31), gyda mwy na 100 o bobol wedi ymgynnull ar gyfer y parti.

Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod perchennog yr eiddo wedi rhybuddio’r ddynes nad oedd hawl cynnal partïon ar y safle.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ond mae’r heddlu’n dweud nad yw’r cyhoedd bellach mewn perygl.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r ddynes wedi cael ei gwahardd rhag rhentu eto gan y wefan.