Mae’r ymgyrchydd, Greta Thunberg, wedi gwrthod derbyn gwobr amgylcheddol, gan ddweud nad yw’r mudiad amgylcheddol angen rhagor o wobrau”, ond yn hytrach weithredoedd.

Mae’r ferch 16 oed wedi ysbrydoli miliynau o bobol drwy annog arweinwyr y byd i fynd i’r afael â chynhesu byd eang.

Fe wnaeth dau ymgyrchydd amgylcheddol y sylwadau ar ran Greta Thunberg mewn seremoni wobrwyo yn Stockholm, Sweden.

“Yr hyn sydd ei angen arnon ni yw i’n harweinwyr a’n gwleidyddion wrando ar yr ymchwil,”  meddai.